dolen:
AD sy'n dal eich llaw.
Rydym yn gweithio gyda busnesau ledled Cymru, gan eu helpu i uwchraddio eu gweithrediad AD, o wasanaeth allanol holl gynhwysfawr, i gynnig talu wrth fynd yn effeithlon a hyblyg a chynnig hollol Hyblyg lle rydych yn ein talu am floc penodol o oriau gymorth AD gallai hyn fod yn 60/100/200 awr bob blwyddyn - ac yna eu defnyddio pan fo angen.
Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn helpu mewn ffordd sy'n gost-effeithiol i chi.
5 ffordd allweddol y mae Dolen yn sefyll allan oddi wrth gwmnïau AD cenedlaethol:
1
Atebion teiliedig: dim ymagwedd un-maint-i-bob-un
Pan fydd rhywun yn sôn am adnoddau dynol (AD), beth sy'n dod i'r meddwl yn gyntaf?
Dryswch a gorlethu? Brawychus? Mae pawb yn gwybod bod adran AD effeithiol yn hanfodol, ond ychydig iawn sy'n gwybod pam, neu sut, i ymdrin â phethau.
Ydych chi'n llawn panig pan fydd problem yn codi? Rydych chi eisiau adeiladu'r adran AD gorau i gyfrannu at lwyddiant eich busnes, ond yn ansicr ble i ddechrau - neu efallai nad oes gennych yr amser i wneud y gwaith yn iawn?
Fel dewis arall, fe allech chi siarad â ni yma yn Dolen. Ymgynghoriaeth adnoddau dynol fasnachol a modern ydym ni, wedi'i lleoli yn M-SParc, Parc Gwyddoniaeth ar gyfer Busnes, Arloesi a Thechnoleg.
AD dolen
Gwyddom fod gwahaniaeth enfawr rhwng adran Adnoddau Dynol integredig sy’n cefnogi twf a llwyddiant y busnes, ac AD ynysig sy’n cael ei thynnu oddi ar guriad calon y busnes ac sydd ond yn magu ei phen ym mharti Nadolig y swyddfa. Ein nod yw eich helpu i gael y cydbwysedd cywir.
Hei, peidiwch â'n camddeall ni, rydyn ni'n caru parti da, efallai eich bod chi'n meddwl ein bod ni'n rhyfedd mewn rhai ffyrdd - does dim byd o'i le ar unigoliaeth - ond byddwch yn dawel eich meddwl, mae AD yn fusnes difrifol ac rydyn ni'n broffesiynol i'r craidd ac rydyn ni'n yn angerddol am sefydlu strategaeth AD gadarnhaol a chydweithredol sy’n meithrin ymddiriedaeth ac yn cyfrannu at ddiwylliant y busnes.
Rydyn ni wir yn poeni am les gweithwyr, felly rydyn ni'n mynd gam ymhellach i ddarparu gwasanaethau AD anhygoel y gwyddom y byddan nhw'n yn gadael chi a’ch tîm yn hapus a cael teimlad o rhyddhad.
2
Rydym yn gwneud y gwneud: creu dogfen bersonol
3
Cefnogaeth yn yr ystafell: rydym yma pan fydd angen ni fwyaf
Beth mae ein cleientiaid yn ei ddweud…
“Mae Leah, Emma a’r tîm yn Dolen wedi rhoi cymorth adnoddau dynol rhagorol i’n busnes bach dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae'r tîm yn broffesiynol iawn, yn ymatebol ac yn bleser gweithio gyda nhw. Mae’n galonogol iawn gwybod ein bod mewn dwylo diogel – mae Dolen yn darparu cyngor cadarn y gallwn ddibynnu arno.”
4
Atebion sy’n arbed amser: gadewch i ni drin â’r gweinyddiaeth adnoddau dynol
5
Cefnogaeth i’ch tîm cyfan: cymorth AD i bawb